1 fal yr oeddwn ymannos
2 drvan iawn am draian nos
3 Yn rhodio rhydaer ddisgwyl
4 Rhy addwyn wy oedd rhyw ddyn wyl
5 Ger llys eiddig ai briod
6 Gwaeddei im ol pe gwydde 'mod
7 Edrychais drychaf drymfryd
8 Tew gaer gylch y ty i gyd
9 kannwyf drwy ffenestr wydrlen
10 Gwnfyd gwyr oedd ganfod gwen
11 llyna ganfod o'm ystryw
12 Yr vn fvn orev yn fyw
13 llaryaidd yw llvn bvn benwyr
14 Ai lliw fel bronwen merch llyr
15 Nid oedd lvn dydd olevni
16 Na havl wybr loywach na hi
17 [124v] Mawr yw miragl i gwynbryd
18 mor deg yw rhac dyn bywor byd
19 Mynnais gyfarch gwell iddi
20 modd hawdd y'm attebawd hi
21 daethom hyd am y terfyn
22 Yn dav ni wybv vn dyn
23 Ni bv rhyngom vwch trigair
24 O bv ni wybu neb air
25 Nic cheisiais wall ar fanrhaith
26 pe ceisiwn ni chawswn chwaith
27 dwy vchenaid a roesom
28 A dorrai'r rhwym dvr yrhom
29 Ar hynny cenais yn iach
30 feinir ni bv neb fwynach
31 vnpeth a wnaf yn fy myw
32 peidio a dywedyd pwy ydyw
Da' ap Glm'